Skip to main content
Beacon Support
Arbenigwyr ADHD ac ASC

ADHD as ASC

Dros y blynyddoedd, mae Beacon wedi ennill enw da am ddarparu cymorth rhagorol a llawn empathi i’n myfyrwyr a’n cleientiaid sydd ag ADHD ac ASC. Mae tîm Beacon wedi ymrwymo i wella’r cymorth a ddarparwn yn barhaus, ac rydym wedi treulio degawdau yn ymchwilio i’r dystiolaeth a’r dulliau gorau o ddarparu cymorth effeithiol, gan ganolbwyntio’n benodol ar fodelau cymorth ar gyfer gweithrediad gweithredol. Yn ogystal â’r sgriniadau ADHD/ASC am ddim a ddarparwn i’n myfyrwyr a’n cleientiaid, rydym hefyd yn cynnig rhaglenni cymorth ADHD ac ASC sydd wedi cael ymateb hynod gadarnhaol.

Rhaglen Cymorth ADHD

Mae ein rhaglen gymorth ADHD wedi’i seilio ar flynyddoedd o ymchwil. Wrth ei chraidd mae dull metawybyddol sy’n eich annog i fod yn hunanymwybodol, yn fyfyriol ac yn rhagweithiol, er mwyn ichi allu llwyddo nid yn unig yn eich astudiaethau academaidd, ond hefyd mewn meysydd pwysig eraill, megis perthnasoedd, y gweithle a chyflawniad personol.

Mae ein rhaglen wedi’i hysbrydoli gan hyfforddiant ADHD yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda myfyrwyr coleg. Mae hefyd yn seiliedig ar fodel gweithrediad gweithredol Brown. Mae’r model hwn yn archwilio’r meysydd allweddol o anhawster y mae unigolion ag anawsterau gweithrediad gweithredol yn eu profi: Cychwyn, Canolbwyntio, Ymdrech, Emosiwn, Cof a Gweithredu.

Mae ein harbenigwyr ADHD achrededig yn darparu strategaethau gweithrediad gweithredol profedig er mwyn eich helpu i wella mewn meysydd sy’n ymwneud â threfnu, cymhelliant, strategaethau astudio, diffyg canolbwyntio, tynnu sylw, dealltwriaeth ohonoch eich hun a hunanbenderfyniaeth.

Mae’r offer ADHD sy’n sail i’n rhaglen yn defnyddio dulliau o ofyn cwestiynau, datrys problemau, modelu ac ymarfer er mwyn sicrhau newid mewn ymddygiad. Mae hyn, yn ei dro, yn annog gwelliannau gwybyddol wrth ichi ddatblygu hunanymwybyddiaeth a’r hyder i osod nodau a’u cyflawni.

Ein Dull Gweithredu

Helpu meddyliau niwrowahanol i ffynnu

Mae ein tîm yn Beacon yn frwd dros gefnogi dysgwyr niwrowahanol. Rydym yn falch o’n rhaglenni hyfforddi a chymorth, sydd wedi arwain at well canlyniadau o ran perfformiad addysgol ac ansawdd bywyd. Yn benodol, rydym wedi cyflawni canlyniadau sylweddol drwy ein Rhaglenni Hyfforddi ADHD, gan gynnwys ein camau hyfforddi ADHD a ddefnyddir gyda’n myfyrwyr addysg uwch fel rhan o’u darpariaeth cymorth arbenigol. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut y gallwn eich cefnogi ar eich taith gydag ASC/ADHD/AuDHD.

Adborth Myfyrwyr

“Dim ond eisiau dweud yr hoffwn i, heb eich help dros y 2 flynedd ddiwethaf, nad wyf wir yn credu y byddwn wedi gallu cwblhau’r cyfan. Rydych wedi bod mor amyneddgar â mi ac â fy ngwaith, fy ramadeg ac ati. Ond rwyf wir eisiau ichi wybod, pe na baech wedi sylwi ar ADHD a’m haddysgu amdano, rwy’n credu y byddwn yn dal i fod ar ben fy nig. Rwyf wedi darganfod cymaint mwy amdanaf fy hun ac rwy’n teimlo bod gen i gymaint o atebion, er fy mod yn dal i fod ar fy nhaith.

Rydych chi wir wedi helpu i agor fy llygaid a’m teimladau, ac wedi fy helpu i sylwi pryd mae angen lle arnaf neu pryd rwy’n teimlo’n anghenus. Yn hytrach na ffrwydro o rwystredigaeth, rwyf bellach yn gallu dweud wrth bobl yn agored beth sydd ei angen arnaf a sut rwy’n teimlo pan fyddaf yn teimlo fy mod wedi fy llethu.

Felly, diolch am nid yn unig fy helpu a’m dysgu mewn perthynas ag astudiaethau academaidd a Saesneg, ond hefyd am fy helpu i deimlo fy mod yn perthyn ac i dderbyn fy hun am bwy ydw i. Byddaf bob amser yn ddiolchgar iawn ichi am fod yn rhan o fy mywyd.” - Nikki

Hyfforddiant ADHD

Mae ADHD wedi bod yn ‘berthynas dlawd’ mewn lleoliadau addysgol ers amser maith. Yn nodweddiadol, yr un math o gymorth cyffredinol ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) a ddarperir i ddysgwyr ADHD yw’r cymorth a roddir i fyfyrwyr niwrowahanol eraill, megis y rhai â dyslecsia. Mae tystiolaeth yn dangos bod angen strategaethau hynod arbenigol a phenodol ar ddysgwyr ADHD.

Yn benodol, mae angen i weithwyr cymorth dysgwyr ADHD feddu ar ddealltwriaeth ddofn o ADHD. Mae dysgwyr ADHD yn ffynnu mewn amgylchedd lle gallant ddysgu am sut y bydd ADHD yn effeithio arnynt a pha strategaethau ymdopi penodol fydd yn effeithiol iddynt. Nid yn unig y mae ein gweithwyr cymorth ADHD yn fentoriaid a thiwtoriaid sgiliau astudio hynod gymwys a phrofiadol, ond maent hefyd wedi cwblhau ein hyfforddiant ADHD er mwyn gallu gweithio’n effeithiol gyda’n myfyrwyr ADHD.

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ADHD preifat ac yn y gweithle. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion a chael dyfynbris.

Rhaglen Cymorth Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASC)

Yn dilyn llwyddiant ein cymorth arbenigol ADHD, datblygwyd rhaglen ASC gennym. Mae’r rhaglen hon yn seiliedig ar fodel seicoaddysgol, lle rydym yn edrych ar pam rydych yn profi heriau penodol, sut y gall y rhain effeithio arnoch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, a’r ffyrdd y gallwch ddefnyddio strategaethau arbenigol i leihau’r rhwystrau rydych yn eu hwynebu.

Mae ein harbenigwyr awtistiaeth cymwys yn deall yr ymadrodd, “Os ydych wedi cwrdd ag un person awtistig, rydych wedi cwrdd ag un person awtistig.” Maent yn deall eich bod yn unigolyn, a bod eich nodweddion personoliaeth, eich profiadau bywyd a’ch cyflyrau cyd-ddigwyddol posibl oll yn cyfrannu at bwy ydych chi heddiw.

Hyfforddiant

Rydym wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, ADHD a niwrowahaniaethau eraill yn llwyddiannus i ddarparwyr addysg ac mewn lleoliadau gweithle. Gallwn deilwra’r hyfforddiant i’ch anghenion, gan ystyried eich gwybodaeth bresennol a’ch gofynion penodol.

Gallwn ddarparu ein hyfforddiant achrededig o bell neu wyneb yn wyneb. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.

Siaradwch â Pherson Go Iawn

Cysylltwch â ni, a byddwn yn eich helpu — heb jargon na phwysau.