Skip to main content
Beacon Support
Cyfreithiol

Telerau ac Amodau

Cyflwyniad

Mae’r telerau defnyddio hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau defnyddio hyn yn llawn. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, nac ag unrhyw ran ohonynt, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Ni chewch, heb ganiatâd ymlaen llaw:

  • Ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (gan gynnwys ei ailgyhoeddi ar wefan arall); gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
  • Arddangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
  • Atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ddefnyddio deunydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd arall at ddibenion masnachol;
  • Golygu neu addasu unrhyw ddeunydd ar y wefan; na

Ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio cynnwys sydd wedi’i wneud ar gael yn benodol ac yn eglur i’w ailddosbarthu (megis ein cylchlythyr)].Oni nodir fel arall, ni neu ein trwyddedwyr sy’n berchen ar hawliau eiddo deallusol y wefan ac i’r deunydd sydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn. Cewch weld, lawrlwytho (at ddibenion storio dros dro yn unig) ac argraffu tudalennau o’r wefan at eich defnydd personol eich hun, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau defnyddio hyn.

Ni chewch: Pan fydd cynnwys wedi’i wneud ar gael yn benodol i’w ailddosbarthu, dim ond o fewn eich sefydliad y caiff ei ailddosbarthu.

DEFNYDD DERBYNIOL

Ni chewch ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, niwed i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; nac mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.

Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i gopïo, storio, cynnal, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi na dosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig â) ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl Troea, mwydyn cyfrifiadurol, cofnodwr trawiadau bysellau, pecyn gwreiddio (rootkit) neu unrhyw feddalwedd gyfrifiadurol faleisus arall.

Ni chewch gynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, sgrapio, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar ein gwefan neu mewn perthynas â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.

Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i drosglwyddo nac anfon cyfathrebiadau masnachol digymell.

Ni chewch ddefnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion sy’n ymwneud â marchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.

MYNEDIAD CYFYNGEDIG

Mae mynediad i rai rhannau o’n gwefan yn gyfyngedig. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rannau eraill o’n gwefan, neu i’n gwefan gyfan, yn ôl ein disgresiwn.

Os byddwn yn darparu ID defnyddiwr a chyfrinair i chi er mwyn eich galluogi i gael mynediad i rannau cyfyngedig o’n gwefan, neu i gynnwys neu wasanaethau eraill, rhaid i chi sicrhau bod yr ID defnyddiwr a’r cyfrinair yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Gallwn analluogi eich ID defnyddiwr a’ch cyfrinair yn ôl ein disgresiwn llwyr, heb rybudd nac esboniad.

CYNNWYS A GYNHYRCHIR GAN DDEFNYDDWYR

Yn y telerau defnyddio hyn, mae “eich cynnwys defnyddiwr” yn golygu unrhyw ddeunydd (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, destun, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweledol) y byddwch yn ei gyflwyno i’n gwefan, at unrhyw ddiben.

Rydych yn rhoi i ni drwydded fyd-eang, ddiwrthdro, anghyfyngedig, heb freindal, i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfrwng presennol neu gyfrwng a fydd yn bodoli yn y dyfodol. Rydych hefyd yn rhoi i ni’r hawl i is-drwyddedu’r hawliau hyn, a’r hawl i gychwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â thorri’r hawliau hyn.

Rhaid i’ch cynnwys defnyddiwr beidio â bod yn anghyfreithlon, rhaid iddo beidio â thorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti, ac ni ddylai fod yn ddeunydd a allai arwain at achos cyfreithiol yn eich erbyn chi, yn ein herbyn ni, nac yn erbyn unrhyw drydydd parti (ym mhob achos o dan unrhyw gyfraith berthnasol).

Ni chewch gyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sydd, neu sydd erioed wedi bod, yn destun bygythiad o achos cyfreithiol, achos cyfreithiol gwirioneddol neu unrhyw gŵyn debyg arall.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu dynnu unrhyw ddeunydd a gyflwynir i’n gwefan, a storir ar ein gweinyddion, neu a gynhelir neu a gyhoeddir ar ein gwefan.

Er gwaethaf ein hawliau o dan y telerau defnyddio hyn mewn perthynas â chynnwys defnyddiwr, nid ydym yn ymrwymo i fonitro cyflwyno cynnwys o’r fath i’n gwefan, nac i fonitro cyhoeddi cynnwys o’r fath ar ein gwefan.

GWARANTAU CYFYNGEDIG

Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid ydym yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gywir; ac nid ydym ychwaith yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael nac y cedwir y deunydd ar y wefan yn gyfredol.

I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, rydym yn eithrio pob datganiad, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a’r defnydd ohoni (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw warantau a awgrymir gan y gyfraith ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol a/neu ddefnyddio gofal a medr rhesymol).

CYFYNGIADAU AR ATEBOLRWYDD

  • I’r graddau y darperir y wefan, a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar y wefan, yn rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled o elw, incwm, refeniw, arbedion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data neu wybodaeth;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
  • Bydd ein hatebolrwydd mwyaf mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig yn gyfyngedig i swm rhesymol.
  • Ni fydd unrhyw beth yn y telerau defnyddio hyn (nac unrhyw le arall ar ein gwefan) yn eithrio nac yn cyfyngu ein hatebolrwydd am dwyll, am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol. Yn ddarostyngedig i hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â defnyddio ein gwefan, neu o dan y telerau defnyddio hyn neu mewn cysylltiad â hwy, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn gyfyngedig fel a ganlyn:

INDEMNIAD


Rydych drwy hyn yn ein hindemnio ac yn ymrwymo i’n hindemnio rhag unrhyw golledion, iawndal, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, gostau cyfreithiol ac unrhyw symiau a dalwn i drydydd parti wrth setlo hawliad neu anghydfod ar gyngor ein cynghorwyr cyfreithiol) a ysgwyddir neu a ddioddefir gennym o ganlyniad i unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn gennych chi, neu sy’n deillio o unrhyw hawliad eich bod wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn.

TORRI'R TELERAU DEFNYDDIO HYN

Heb ragfarn i’n hawliau eraill o dan y telerau defnyddio hyn, os byddwch yn torri’r telerau defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, gallwn gymryd unrhyw gamau a ystyriwn yn briodol i ymdrin â’r tor-amod, gan gynnwys atal eich mynediad i’r wefan, eich gwahardd rhag cael mynediad i’r wefan, rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ofyn iddo rwystro eich mynediad i’r wefan a/neu gychwyn achos llys yn eich erbyn.

DIWYGIO

Gallwn ddiwygio’r telerau defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y telerau defnyddio diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd o’n gwefan o’r dyddiad y cyhoeddir y telerau defnyddio diwygiedig ar ein gwefan.

Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn gyfredol.

ASEINIAD

Gallwn drosglwyddo, is-gontractio neu ddelio fel arall â’n hawliau a/neu ein rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn heb eich hysbysu na chael eich caniatâd. Ni chewch drosglwyddo, is-gontractio na delio fel arall â’ch hawliau a/neu eich rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn.

DARPARIAETHAU GWAHANadwy

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn yn anghyfreithlon a/neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau mewn grym. Os byddai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu’n orfodadwy pe bai rhan ohoni’n cael ei dileu, ystyrir bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau mewn grym.

EITHRIO HAWLIAU TRYDYDD PARTI

Mae’r telerau defnyddio hyn er budd i chi ac i ni, ac nid ydynt wedi’u bwriadu er budd unrhyw drydydd parti nac i fod yn orfodadwy gan unrhyw drydydd parti. Nid yw arfer ein hawliau ni na’ch hawliau chi mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn yn amodol ar ganiatâd unrhyw drydydd parti.

CYTUNDEB CYFAN

Mae’r telerau defnyddio hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan, ac yn disodli pob cytundeb blaenorol ynghylch eich defnydd o’r wefan hon.

EIN MANYLION

Mae ein manylion cyswllt llawn i’w gweld ar ein tudalen Cysylltu â Ni.