Gyrfaoedd yn Beacon
Mae ein rolau cymorth yn hunangyflogedig, gan roi'r hyblygrwydd i chi ddewis y gwaith sy'n addas i chi. Gallwch benderfynu pa gyfleoedd i'w derbyn, ble i weithio a sut i reoli eich argaeledd, ynghyd â'r rhyddid i adeiladu rôl o amgylch eich ymrwymiadau presennol.

Popeth sydd ei angen arnoch i ffynnu yn eich rôl
Os byddwch yn llwyddiannus yn ein proses recriwtio, byddwn yn darparu’r cyfraddau gorau yn y sector, rhaglen sefydlu gadarn, DPP parhaus, mynediad at reolwr (gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa) ac, i’n tiwtoriaid a’n mentoriaid, gymorth gan uwch fentor.
Mae ein proses recriwtio fel a ganlyn:
- Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i:jobs@beaconsupport.co.uk
- Adolygwch yMatrics Cymwysterau DfEa gwiriwch eich bod yn bodloni'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y rôl cyn anfon eich cais.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r ardal rydych yn gwneud cais amdani a'r radiws rydych yn barod i deithio.
- Os ydych yn bodloni’r meini prawf gorfodol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani ond nad ydym yn recriwtio yn eich ardal ar hyn o bryd, byddwn yn cadw eich cais ar ffeil.
- Os ydych yn bodloni’r meini prawf gorfodol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani a’n bod yn recriwtio yn eich ardal, byddwn yn ymdrechu i ateb i chi o fewn 7 diwrnod.
- Byddwn yn trefnu cyfweliad ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi anfon tystiolaeth o’ch cymwysterau, dogfennaeth arall a geirdaon.
- Unwaith y byddwn wedi gwirio eich dogfennaeth byddwn yn darparu hyfforddiant sefydlu a mynediad i’n hwb cyflogeion i chi.
Ymddiheurwn nad ydym yn gallu ymateb i ymholiadau unigol am gyfleoedd yn Beacon; fodd bynnag, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi adolygu’r rolau a restrir cyn gwneud cais.
Cyfleoedd presennol
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan weithwyr cymorth gwych. Isod mae'r rolau a'r lleoliadau yr ydym yn recriwtio ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Sgiliau Astudio SpLD
Mae croeso bob amser i ymgeiswyr o bell ar gyfer y rôl hon.
- Aberystwyth
- Bolton
- Bournemouth
- Caerdydd
- Essex
- Caerwysg
- Gillingham
- Lancashire
- Leeds
- Llundain
- Newcastle
- Rhydychen
- Reading
- Sussex
- Abertawe
Sgiliau Astudio ASC
- Aberystwyth
- Birmingham
- Bournemouth
- Caergaint
- Caerdydd
- Canol Llundain
- Essex
- Gillingham
- Hull
- Lancashire
- Middlesex
- Northumbria
- Rhydychen
- Sussex
- Abertawe
Mentor Arbenigol ASC
- Aberystwyth
- Bournemouth
- Caerdydd
- Canol Llundain
- Essex
- Hull
- Sussex
- Abertawe
Mentor Arbenigol MH
- Aberystwyth
- Bournemouth
- Caerdydd
- Essex
- Caerwysg
- Leeds
- Reading
- Southampton
- Suffolk
- Sussex
- Abertawe
- Efrog