Skip to main content
Beacon Support

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn ddewis ymarferol rhagorol yn lle cyrsiau academaidd mwy traddodiadol, gan ei bod yn cyfuno profiad gwaith â dysgu ffurfiol. Mae’n eich galluogi i ennill arian wrth ddysgu. Yn aml, mae dysgwyr niwrowahanol yn ffafrio dysgu drwy wneud, felly gall prentisiaethau fod yn ffordd wych i chi ragori wrth ennill cymwysterau yn eich maes dewisol. Os ydych yn teimlo y gallech fod yn niwrowahanol (e.e. ADHD, dyslecsia neu awtistiaeth), soniwch am hyn wrth eich Darparwr Hyfforddiant, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am sut i geisio asesiad ffurfiol.

Prentisiaethau

Mae Beacon Support yn darparu amrywiaeth o gymorth i helpu prentisiaid i ffynnu a llwyddo wrth astudio a gweithio.

SUT ALLWN NI HELPU?

Gall ein pecyn cymorth drawsnewid profiadau prentisiaid niwrowahanol o weithio a dysgu.

Mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac felly’n cael ei deilwra i anghenion y prentis, gan gynnwys nifer y sesiynau cymorth sydd eu hangen arno. Dangosir enghreifftiau o’r cymorth isod:

Strategaethau cymdeithasol

  • Cyfathrebu’n effeithiol
  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Rheoli gwrthdaro

Strategaethau academaidd

  • Cynllunio portffolio
  • Trefnu deunyddiau
  • Olrhain amser a chofnodi tystiolaeth
  • Cyflwyniadau a chyfweliadau
  • Cymorth ar gyfer Asesiad Diwedd Pwynt (EPA)

Strategaethau llesiant

  • Rheoli gorbryder
  • Monitro hwyliau
  • Cadw dyddiadur
  • Dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion
  • Cyfeirio at wasanaethau brys sydd ar gael 24/7

Tîm Beacon

Rydym yma i sicrhau bod pob prentis yn cael gwasanaeth cadarnhaol a holistaidd sy’n meithrin hyder, yn cefnogi llesiant ac yn gwneud y gorau o’u perfformiad academaidd ac yn y gweithle. Caiff prentisiaid eu paru’n sensitif bob amser ag arbenigwr y mae ei sgiliau a’i brofiad yn cyfateb orau i anghenion unigol y prentis. Mae ein holl Arbenigwyr yn derbyn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu’r cymorth gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant rheolaidd ar dechnoleg gynorthwyol, er mwyn iddynt allu cynghori prentisiaid ar dechnolegau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Pa gyllid y gallaf ei gael fel prentis?

Er na fyddwch yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) na chyllid myfyrwyr, mae ffynonellau cyllid eraill ar gael y gallwch wneud cais amdanynt. Mae’r rhain yn cynnwys hyd at £19,000 y flwyddyn gan yr Asiantaeth Cyllido Addysg a Sgiliau (ESFA). Telir y cyllid cymorth dysgwyr hwn i ddarparwyr hyfforddiant er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth llawn sydd ei angen arnoch, ac mae ar gael ar bob lefel o brentisiaeth, gan gynnwys prentisiaethau gradd.

Gallwch hefyd wneud cais am gyllid Access to Work. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyllid hwn ar ein tudalen Gweithle. Gall y grant hwn eich helpu i dalu am anghenion sy’n gysylltiedig â’ch gwaith, megis cymorth iechyd meddwl.


Pa gymorth y gallaf ei gael?

Mae bod ag anabledd yn golygu bod gennych hawl i addasiadau rhesymol, megis amser ychwanegol ar gyfer asesiadau. Gallwch ddarllen rhagor am addasiadau rhesymol yn y canllaw hwn: Disability Rights UK

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth arbenigol wedi’i deilwra i’ch anghenion. Er enghraifft, efallai y bydd angen offer arbenigol arnoch, megis cadair ergonomig neu sgrin fawr. Gall technoleg gynorthwyol eich helpu gyda chynllunio, ymchwilio, cymryd nodiadau, rheoli tasgau, ac ati. Gall cymorth personol a ddarperir gan hyfforddwyr dysgu eich helpu i ddatblygu strategaethau arbenigol, megis rheoli amser a threfnu’n effeithiol, er mwyn eich helpu i gyflawni nodau allweddol, fel cwrdd â therfynau amser.

Diben y cymorth a gewch yw sicrhau nad ydych dan anfantais o gymharu â’ch cyfoedion nad oes ganddynt anabledd. Dylai hefyd eich helpu i nodi eich sgiliau a’ch cryfderau niferus, a dod o hyd i’r strategaethau cywir i wneud y gorau ohonynt er mwyn ichi gyrraedd eich potensial llawn.

Sut mae gwneud cais?

Ar ôl i’ch anghenion gael eu nodi, dylech gysylltu â’ch darparwr hyfforddiant a’ch cyflogwr. Bydd angen ichi gwblhau’r ceisiadau am gyllid, a fydd yn cynnwys darparu’r dogfennau gofynnol.

Ap My-Prompt

Gall prentisiaid bersonoli eu hap My-Prompt er mwyn rhagweld heriau personol a chael strategaethau priodol i’w helpu. Mae enghreifftiau o adnoddau My-Prompt yn cynnwys: gosod nodau, newid ymddygiad, gwella canolbwyntio, cynyddu cynhyrchiant, rhoi hwb i’r ymennydd a gwella’r cof.

Defnyddio Cymorth Arbenigol ar gyfer Anawsterau Gweithrediad Gweithredol

Fel rhan o’n dull holistaidd o gefnogi prentisiaethau, rydym yn falch o ddarparu My-Prompt Plus, ein system adnoddau sy’n canolbwyntio ar anawsterau gweithrediad gweithredol.

Mae My-Prompt Plus wedi’i gynllunio i gefnogi a gwella gweithrediad gweithredol. Bydd ei wahanol feysydd yn helpu gyda chynllunio, trefnu, cof, rheoli tasgau, canolbwyntio, llesiant a rheoli teimladau o orlethu.

Gall ein hyfforddwyr arbenigol helpu prentisiaid i ddefnyddio strategaethau arbenigol My-Prompt Plus yn eu hastudiaethau, eu gwaith a’u bywyd personol.

Bydd ein cymorth personol yn helpu prentisiaid i:

  • Feithrin hyder
  • Deall a gwneud y gorau o’u cryfderau unigol
  • Gwella perfformiad academaidd
  • Gwella llesiant
  • Datblygu sgiliau personol
  • Defnyddio amrywiaeth eang o offer a thechnegau, gan gynnwys technoleg gynorthwyol

I ddysgu mwy am My-Prompt Plus, ewch i wefan My-Prompt Plus.

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gall pecyn cymorth i brentisiaid niwrowahanol drawsnewid eu profiadau o weithio a dysgu. Mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac felly’n cael ei deilwra i anghenion y prentis, gan gynnwys nifer y sesiynau cymorth sydd eu hangen arnynt. Gall y cymorth gynnwys y canlynol:

  • Strategaethau cymdeithasol a chymorth, megis cyfathrebu’n effeithiol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rheoli gwrthdaro.
  • Strategaethau academaidd a chymorth, megis cymorth gyda chynllunio portffolio, trefnu deunyddiau, olrhain amser i gofnodi’r amser a dreulir yn dysgu pethau newydd, a meithrin hyder mewn meysydd fel cyflwyniadau a chyfweliadau – sy’n ddefnyddiol ar gyfer yr Asesiad Diwedd Pwynt (EPA).
  • Strategaethau llesiant a chymorth, megis rheoli gorbryder, monitro hwyliau, cadw dyddiadur, defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion, a chyfeirio at wasanaethau brys sydd ar gael 24/7. Gall prentisiaid bersonoli’r ap i ragweld anawsterau y gallent eu profi, a chael cymorth i ychwanegu’r strategaethau a fydd yn ddefnyddiol iddynt.
  • Strategaethau personol, megis newid ymddygiad, gwella canolbwyntio, cynyddu cynhyrchiant, rhoi hwb i’r ymennydd a gwella’r cof.

Barod i Ddechrau?

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut y gall ein pecyn cymorth helpu eich prentisiaid i gyrraedd eu potensial llawn.