Myfyrwyr
Ni yw'r darparwr cymorth NMH mwyaf yng Nghymru. Weithiau gofynnir i ni a ydym yn gweithredu yng Nghymru'n unig, ac rydym yn falch o gadarnhau ein bod hefyd yn darparu cymorth yn Lloegr.
Os ydych wedi cael eich llythyr DSA2 sy'n enwi Beacon fel eich darparwr cymorth, byddwn wrth ein bodd yn rhoi hyn ar waith.
Cysylltwch â ni i drefnu eich cymorth drwy:
Ffôn/ neges destun: 07831 516468
E-bost:admin@beaconsupport.co.uk
Byddai'n ddefnyddiol hefyd pe baech yn anfon copi atom o'ch DSA2 a'ch Adroddiad Asesiad Anghenion. Fel arfer, byddwn yn ymateb i chi o fewn 24 awr i chi gysylltu â ni am y tro cyntaf.
Efallai eich bod yn ansicr beth i'w ddisgwyl gan eich cymorth. Mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn unrhyw gwestiynau neu i ddweud wrthym am unrhyw ddewisiadau sydd gennych. Isod mae disgrifiad byr o bob un o'r prif fathau o gymorth a ddarperir:
Gofynnoch chi, atebom ni:
Rydym wrth ein bodd bod cant y cant o'n myfyrwyr a ymatebodd i'n harolwg diweddar yn fodlon neu'n fodlon iawn â'u cymorth.
Mae cael adborth gan fyfyrwyr yn ein helpu i fonitro a gwella ein cymorth yn barhaus. Rydym yn annog ein myfyrwyr i roi adborth i ni drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio ein harolwg myfyrwyr. Gellir hefyd adael adborth yn ddienw drwy ein tudalen gyswllt.
Siaradwch â pherson go iawn.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni helpu. Dim jargon, dim pwysau.