Meddwl sut i gael gafael ar eich cymorth?
Ni yw'r darparwr cymorth NMH mwyaf yng Nghymru. Weithiau gofynnir i ni a ydym yn gweithredu yng Nghymru'n unig, ac rydym yn falch o gadarnhau ein bod hefyd yn darparu cymorth ledled y DU.
Os ydych wedi cael eich llythyr DSA2 sy'n enwi Beacon fel eich darparwr cymorth, byddwn wrth ein bodd yn rhoi hyn ar waith.
Cysylltwch â ni i drefnu eich cymorth drwy:
· Ffôn/ neges destun: 07831 516468
· E-bost: admin@beaconsupport.co.uk
Byddai'n ddefnyddiol hefyd pe baech yn anfon copi atom o'ch DSA2 a'ch Adroddiad Asesiad Anghenion. Fel arfer, byddwn yn ymateb i chi o fewn 24 awr i chi gysylltu â ni am y tro cyntaf.
Mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn unrhyw gwestiynau neu i ddweud wrthym am unrhyw ddewisiadau sydd gennych.
Beth yw DSA?
Mae'r Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) yn talu costau sy'n gysylltiedig ag astudio ac sy'n deillio o gyflwr iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Nid yw'n dibynnu ar brawf modd ac nid oes angen ei ad-dalu. Gall DSA eich helpu gyda chostau offer arbenigol, technoleg gynorthwyol, cymorth astudio (cynorthwywyr anfeddygol), tacsis a chymorth astudio arall sy'n gysylltiedig ag anabledd.
Sut mae gwneud cais am DSA?
Gallwch wneud cais am DSA ar-lein drwy eich cyfrif cyllid myfyrwyr neu drwy lenwi ffurflen DSA1 os nad ydych yn cael cyllid myfyrwyr.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch anabledd neu'ch anhawster dysgu (er enghraifft, adroddiad dyslecsia a gynhaliwyd gan weithiwr proffesiynol cymwys).
Ar ôl i'ch cais gael ei adolygu, gofynnir i chi drefnu Asesiad Anghenion mewn canolfan asesu. Gallwch ddewis cael hwn o bell neu wyneb yn wyneb.
Bydd eich aseswr yn nodi'r offer arbenigol, y meddalwedd neu'r cymorth anfeddygol sydd ei angen arnoch. Gallwch ofyn i Beacon ddarparu eich cymorth, ond cofiwch mai eich corff cyllido fydd yn rhoi'r gymeradwyaeth derfynol i unrhyw gymorth a argymhellir.
Beth alla i ei ddisgwyl gan fy nghymorth drwy Beacon?
Mae gan Beacon dros ddegawd o brofiad o ddarparu cymorth anfeddygol. Dros y blynyddoedd rydym wedi ennill enw da am ragoriaeth. Rydym wedi datblygu hyfforddiant ADHD ac ASC achrededig yn fewnol i'n tîm, sy'n gallu darparu ein rhaglenni cymorth ADHD ac ASC.
Mwy Am Ein Rhaglen Cymorth Arbenigol ADHD/ASC
Mae ein rhaglenni ADHD ac ASC yn cynnwys strategaethau seicoaddysgol metawybyddol y profwyd eu bod yn gwella camweithrediad gweithredol. Byddwn yn eich helpu i ddeall pam eich bod yn wynebu her benodol, fel oedi cyn dechrau tasgau, ac yn dangos strategaethau llwyddiannus i chi i oresgyn yr anhawster.

Cymorth pro bono a sgrinio
Weithiau ni all myfyrwyr sydd wedi bod yn cael DSA gael gafael arno. Un enghraifft o hyn yw myfyriwr ar leoliad dramor. Ni fyddwn byth yn gadael myfyrwyr Beacon na allant gael cyllid heb gymorth.
Gall myfyrwyr Beacon sy'n credu y gallent fod yn awtistig neu fod ag ADHD archebu sgrinio ASC/ADHD gyda'n haseswr diagnostig mewnol, sy'n gallu gofyn am atgyfeiriad meddygol lle mae digon o dystiolaeth. Hyd yma, mae 100% o'r atgyfeiriadau at feddygon teulu yn dilyn y sgrinio a gynhaliwyd gennym wedi bod yn llwyddiannus.
Efallai eich bod yn dal yn ansicr beth i'w ddisgwyl gan eich cymorth, ond rydym yma i helpu
Os hoffech ragor o wybodaeth, gwyliwch ein fideos isod sy'n rhoi mwy o fanylion am sut mae'n gweithio:
Sgiliau Astudio Arbenigol
Cymorth sgiliau astudio hyblyg, unigol wedi'i gynllunio o amgylch anghenion a chwrs pob myfyriwr.
Mentora Arbenigol
Mentora un i un i helpu myfyrwyr i ddatblygu hyder, trefn a strategaethau ar gyfer rheoli bywyd prifysgol.
Technoleg Gynorthwyol
Hyfforddiant ac arweiniad arbenigol i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i dechnoleg sy'n cefnogi eu dysgu a'i defnyddio.
Pa wasanaethau DSA y mae Beacon Support yn eu darparu?
Sgiliau Astudio
Rydym yn darparu Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol i fyfyrwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol, Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth, ADHD, cyflyrau meddygol a chyflyrau iechyd meddwl. Gallwch ddewis cael eich cymorth o bell neu wyneb yn wyneb. Bydd eich tiwtor yn strwythuro eich cymorth i ddiwallu eich anghenion. Fel arfer, mae cymorth sgiliau astudio yn cynnwys y canlynol:
· Cynllun cymorth personol unigol (PSP) sy'n cael ei ddiweddaru a'i adolygu'n rheolaidd.
· Amserlennu
· Trefnu
· Gosod nodau
· Dadansoddi a deall briffiau aseiniadau.
· Eich cynorthwyo gyda sgiliau ymchwil, gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau priodol a'u cyfeirnodi'n gywir
· Cynllunio a strwythuro eich aseiniadau (ysgrifenedig a llafar)
· Datblygu sgiliau ysgrifennu priodol (e.e. myfyriol, dadansoddol, ysgrifennu adroddiadau, ac ati)
· Strategaethau adolygu a thechnegau arholiad.
· Sgiliau cyflwyno.
Mentora
Rydym yn darparu Cymorth Mentora Arbenigol i fyfyrwyr â Chyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth, ADHD, cyflyrau meddygol a chyflyrau iechyd meddwl, lle mae eich aseswr anghenion wedi argymell hyn. Gallwch ddewis cael eich cymorth o bell neu wyneb yn wyneb. Bydd eich mentor yn strwythuro eich cymorth i ddiwallu eich anghenion, er ei bod yn bwysig cofio nad yw'r cymorth yn therapiwtig. Fel arfer, mae cymorth mentora yn cynnwys y canlynol:
· Deall eich diagnosis
· Cyfeirio at wasanaethau'r Brifysgol a gwasanaethau allanol
· Cymorth emosiynol, cyngor ac arweiniad
· Trefnu a Rheoli Amser
· Tasgau academaidd sylfaenol
· Strwythuro a chynllunio
· Blaenoriaethu
· Ymgyfarwyddo â'r brifysgol a chymorth i feithrin sgiliau cymdeithasol
· Cymorth a strategaethau cyfathrebu
· Cymorth iechyd meddwl a strategaethau rheoli
Mathau eraill o gymorth
Cymorth Cymryd Nodiadau– Bydd eich Cymerwr Nodiadau yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd nodiadau clir a chywir. Fel arfer, caiff y rhain eu hanfon atoch yr un diwrnod.
Cynorthwyo Astudio– Gall eich Cynorthwyydd Astudio eich helpu gydag amrywiaeth o dasgau academaidd fel rheoli amser, trefnu, ymchwilio, defnyddio'r llyfrgell, cymryd nodiadau, cyfeirnodi, cynllunio a rhannu eich nodau'n gamau hylaw.
Cymorth Labordy/Gweithdy– Bydd eich cynorthwyydd labordy/gweithdy yn eich cynorthwyo yn eich labordy. Ymhlith yr enghreifftiau o'r cymorth y gallant ei roi mae dilyn eich cyfarwyddiadau i sefydlu a chynnal arbrofion, helpu i baratoi deunyddiau a samplau labordy, a symud offer labordy.
Cymorth Ymarferol– Bydd eich Cynorthwyydd Cymorth Ymarferol yn eich helpu gydag amrywiaeth o dasgau ymarferol fel y gallwch gymryd rhan lwyddiannus mewn astudiaeth academaidd. Ymhlith yr enghreifftiau o gymorth mae eich helpu i gario llyfrau ac offer, tasgau llyfrgell, trefnu eich gwaith a gwneud nodiadau sylfaenol.
Rydym bob amser yn falch o ateb ymholiadau myfyrwyr. Isod mae rhai o'r cwestiynau a gawsom a'n hatebion.
Rhagor o wybodaeth:
Siaradwch â ni am y cymorth sy'n iawn i chi. Dim jargon, dim pwysau.